{"id":201768,"date":"2022-06-08T15:48:42","date_gmt":"2022-06-08T14:48:42","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/?p=201768"},"modified":"2022-06-08T15:50:24","modified_gmt":"2022-06-08T14:50:24","slug":"cyngor-gwynedd-yn-lansio-cwrs-ar-lein-i-ddysgu-mwy-am-dreftadaeth-cynefinoedd-a-hanes-y-sir","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/cyngor-gwynedd-yn-lansio-cwrs-ar-lein-i-ddysgu-mwy-am-dreftadaeth-cynefinoedd-a-hanes-y-sir\/","title":{"rendered":"Cyngor Gwynedd yn lansio cwrs ar-lein i ddysgu mwy am dreftadaeth, cynefinoedd a hanes y sir"},"content":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar fe lansiwyd cwrs ar-lein unigryw er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dysgu a deall am dreftadaeth, cynefinoedd a hanes Gwynedd.<\/p>\n<p>Nod cynllun Llysgennad Gwynedd sydd wedi ei ddatblygu gan Wasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau Cyngor Gwynedd yw rhoi cyfle i bobl sydd yn byw, gweithio, astudio neu sydd \u00e2 diddordeb yng Ngwynedd i ddysgu ac i wella eu gwybodaeth am rinweddau unigryw&#8217;r sir.<\/p>\n<p>Y pwrpas yn \u00f4l Elin Evans, Swyddog Prosiect Llechi Cymru, Cyngor Gwynedd; &#8220;<em>\u201coedd creu cwrs ar-lein er mwyn cyflwyno treftadaeth, hunaniaeth a hanes Gwynedd mewn ffordd syml a chyfoes, fyddai yn addas ac o fudd i bawb; busnesau, plant, pobl ifanc, gweithwyr cyhoeddus a\u2019r cyhoedd yn gyffredinol<\/em>.&#8221;<\/p>\n<div id=\"attachment_201762\" style=\"width: 635px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-201762\" class=\"wp-image-201762 size-large\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Dolgellau-High-St-2-1024x652.jpg\" alt=\"Dolgellau High Street\" width=\"625\" height=\"398\" srcset=\"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Dolgellau-High-St-2-1024x652.jpg 1024w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Dolgellau-High-St-2-300x191.jpg 300w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Dolgellau-High-St-2-768x489.jpg 768w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Dolgellau-High-St-2-1536x978.jpg 1536w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Dolgellau-High-St-2-624x397.jpg 624w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Dolgellau-High-St-2-50x32.jpg 50w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Dolgellau-High-St-2.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 625px) 100vw, 625px\" \/><p id=\"caption-attachment-201762\" class=\"wp-caption-text\">Stryd Fawr Dolgellau \u00a9 Cyngor Gwynedd Council 2022<\/p><\/div>\n<p>Un sy\u2019n frwd dros rannu stori\u2019r sir yw\u2019r awdur a chyflwynydd o Ben Ll\u0177n, Aled Hughes. &#8220;<em>Ydi hi\u2019n bosib cael y rhan fwyaf o bob dim mewn un sir? Ydi. Dyna ydi Gwynedd. O\u2019i thraethau di-ri i\u2019w chopaon uchaf, o\u2019i phentrefi i\u2019w ffermydd &#8211; i\u2019w chestyll &#8211; mae yna bob dim i bawb. Fel un gafodd ei eni, ei fagu a\u2019i addysgu hyd nes iddo raddio yma &#8211; mae\u2019n hawdd cymryd y lle\u2019n ganiataol. Crud yr iaith. Cartref i chwedlau &#8211; o gewri i frenin a chlustiau ceffyl. Ond yr elfen bwysicaf? Ei phobl, pobl sy\u2019n falch iawn o\u2019u hiaith a\u2019u Cymreictod. A dyna, i mi, ydi cadernid Gwynedd &#8211; a dwi\u2019n falch bod yr adnodd sobor o bwysig yma ar gael i ddweud ein stori ni.<\/em>&#8221;<\/p>\n<p>Mae lansio y cwrs ar-lein yn adeiladu ar y gwaith diweddar wnaethpwyd gan Gyngor Gwynedd a\u2019i bartneriaid i sicrhau statws safle treftadaeth y byd UNESCO i \u2018Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru\u2019.<\/p>\n<p>Dywedodd Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd; &#8220;<em>Mae hyrwyddo, gwarchod a datblygu treftadaeth y sir yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd. Bydd y cwrs Llysgennad newydd yn fodd i bobl Gwynedd a thu hwnt ddysgu a lledaenu\u2019r neges o pha mor unigryw a phwysig ydi ein hardal.<\/em>&#8221;<\/p>\n<p>Bydd y cwrs yn cynnwys 9 modiwl fydd yn tywys y dysgwr i ddysgu am them\u00e2u megis Iaith, Diwylliant, Cymunedau, Tirwedd, Hanes, Chwedlau a Threftadaeth ymhlith eraill. Bydd modd i unrhyw un gymryd rhan yn y cwrs yn eu hamser eu hunain a bydd yn rhad ac am ddim. Bydd modd ennill tystysgrif efydd, arian neu aur wrth gwblhau\u2019r gwaith. Mae 4 modiwl wedi eu lansio, gyda\u2019r gweddill i ddilyn yn yr wythnosau nesaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd modd i unrhyw un gymryd rhan yn y cwrs yn eu hamser eu hunain a bydd yn rhad ac am ddim.<\/p>\n","protected":false},"author":2568,"featured_media":201761,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0,"footnotes":""},"categories":[98],"tags":[],"class_list":["post-201768","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-lifestyle-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/201768","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2568"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=201768"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/201768\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":201781,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/201768\/revisions\/201781"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/201761"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=201768"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=201768"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=201768"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}