{"id":306938,"date":"2023-11-22T10:39:21","date_gmt":"2023-11-22T10:39:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/?p=306938"},"modified":"2023-11-22T10:44:15","modified_gmt":"2023-11-22T10:44:15","slug":"cyfle-i-ddysgu-mwy-am-gymru-yn-ystod-wythnos-gyntaf-llysgenhadon-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/cyfle-i-ddysgu-mwy-am-gymru-yn-ystod-wythnos-gyntaf-llysgenhadon-cymru\/","title":{"rendered":"Cyfle\u00a0i ddysgu mwy am Gymru yn ystod Wythnos gyntaf Llysgenhadon Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae cynllun ar-lein sydd wedi ennill gwobrau ac sy\u2019n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd o Gymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a bod yn Llysgennad yn ystod Wythnos gyntaf Llysgenhadon Cymru rhwng 20 a 26 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru ar gael i bawb ac mae\u2019n ffordd wych o ddysgu mwy am nodweddion unigryw pob lle. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o them\u00e2u. Mae hyn yn cynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirluniau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae 3 lefel o wobrau \u2013 efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau sy\u2019n cael eu cwblhau. Anfonir gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau i bawb sy\u2019n cwblhau\u2019r lefelau.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-306941\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Wales-Ambassador-Infographic-cymraeg-724x1024.jpg\" alt=\"Wales Ambassador Statistics Infographics in Welsh 2023\" width=\"625\" height=\"884\" srcset=\"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Wales-Ambassador-Infographic-cymraeg-724x1024.jpg 724w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Wales-Ambassador-Infographic-cymraeg-212x300.jpg 212w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Wales-Ambassador-Infographic-cymraeg-768x1086.jpg 768w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Wales-Ambassador-Infographic-cymraeg-1086x1536.jpg 1086w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Wales-Ambassador-Infographic-cymraeg-624x883.jpg 624w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Wales-Ambassador-Infographic-cymraeg-35x50.jpg 35w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Wales-Ambassador-Infographic-cymraeg.jpg 1414w\" sizes=\"auto, (max-width: 625px) 100vw, 625px\" \/><\/p>\n<p>Cynigir cyrsiau am ddim ym Mharciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys M\u00f4n, Sir y Fflint, Wrecsam, Ceredigion a Sir G\u00e2r. Bydd cwrs Llysgennad Diwylliannol Cymru gyfan yn cael eu lansio yn fuan. Mae Llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer amrywiol gyrsiau i ddysgu mwy am Gymru a bod yn rhan o gymuned ehangach.<\/p>\n<p>Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad ac i annog eraill i ymuno. Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn ystod yr wythnos, gan gynnwys digwyddiad ar-lein yn benodol ar gyfer Llysgenhadon &#8211; bydd siaradwyr o Croeso Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri yn trafod prosiect di-blastig Yr Wyddfa. Bydd Cymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru hefyd yn bresennol ac yn esbonio sut i ddod yn Dywysydd Twristiaeth Cymru. Ymhlith y gweithgareddau eraill bydd noson o dan y s\u00ear i ddysgu am yr enwau Cymraeg a&#8217;r fytholeg y tu \u00f4l i&#8217;r cytserau; sesiwn ryngweithiol ar sut i ddefnyddio ffonau clyfar i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol a digwyddiad rhwydweithio cyflym i edrych sut y gall busnesau gydweithio.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae dros 3,750 o bobl wedi cofrestru gyda dros 2,700 o bobl yn cyrraedd lefel efydd, nid yn unig o Gymru ond o bob rhan o\u2019r DU a thu hwnt. Dyfarnwyd 6,243 o fathodynnau efydd, arian ac aur gyda thua dwy ran o dair o\u2019r cyflawnwyr efydd yn mynd ymlaen i gyflawni aur. Mae 15-20% o ddefnyddwyr yn cofrestru ar fwy nag un cwrs.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-303975\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Tony-Vitti-square.jpg\" alt=\"Tony Vitti\" width=\"482\" height=\"482\" srcset=\"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Tony-Vitti-square.jpg 800w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Tony-Vitti-square-300x300.jpg 300w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Tony-Vitti-square-150x150.jpg 150w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Tony-Vitti-square-768x768.jpg 768w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Tony-Vitti-square-200x200.jpg 200w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Tony-Vitti-square-624x624.jpg 624w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Tony-Vitti-square-50x50.jpg 50w\" sizes=\"auto, (max-width: 482px) 100vw, 482px\" \/><\/p>\n<p>Mae\u2019r Llysgennad, Tony Vitti wedi cwblhau\u2019r holl gyrsiau i lefel aur:<\/p>\n<blockquote><p><em>\u201cMae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn hynod ddefnyddiol i mi yn fy ngwaith gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi ddysgu am rannau o\u2019r ardal nad oeddwn i wedi\u2019u darganfod o\u2019r blaen a gallu rhannu\u2019r wybodaeth honno gyda\u2019n cwsmeriaid. Mae\u2019n amhrisiadwy pan fyddwn ni\u2019n gwybod bod ardal benodol yn brysur a\u2019n bod ni\u2019n gallu awgrymu \u201cperlau cudd\u201d fel dewis amgen. Mae pobl wedi dod yn \u00f4l atom i ddweud eu bod nhw wedi darganfod lle hyfryd oherwydd ein bod wedi gallu rhannu\u2019r wybodaeth hon gyda nhw.<\/em><\/p>\n<p><em>Fel rhywun sy\u2019n hoffi crwydro, rydw i wedi elwa\u2019n bersonol o bob un o\u2019r cyrsiau. Maen nhw wedi mynd \u00e2 fi i lefydd hardd ac atyniadau diddorol ac mae gen i wybodaeth well am y lleoedd hyn nag oedd gen i cyn dilyn y cyrsiau. Rydw i\u2019n edrych ymlaen at fodiwlau newydd!\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-303967\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Jen-Brierley-square-300x300.jpg\" alt=\"Jen Brierley\" width=\"482\" height=\"482\" srcset=\"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Jen-Brierley-square-300x300.jpg 300w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Jen-Brierley-square-150x150.jpg 150w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Jen-Brierley-square-200x200.jpg 200w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Jen-Brierley-square-50x50.jpg 50w, https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Jen-Brierley-square.jpg 482w\" sizes=\"auto, (max-width: 482px) 100vw, 482px\" \/><\/p>\n<p>Ychwanegodd y Llysgennad, Jen Brierley:<\/p>\n<blockquote><p><em>\u201cRwy\u2019n teimlo\u2019n ffodus iawn i fyw yng Nghymru. O fy nghartref gallaf ymweld \u00e2 thraethau hyfryd, tirweddau mynyddig a bryniau godidog. Gallaf fynd allan a gwylio\u2019r haul yn machlud o frig bryngaer hynafol neu fynd am dro i\u2019r pwynt lle mae\u2019r mynyddoedd yn cwrdd \u00e2\u2019r m\u00f4r gan fwynhau\u2019r golygfeydd sy\u2019n newid drwy\u2019r amser mewn goleuadau gwahanol. Yr hyn yr wyf yn ei garu am fod yn Llysgennad Twristiaeth Cymru yw fy mod yn gallu ehangu fy ngwybodaeth am y lle hyfryd yr wyf yn ei alw\u2019n gartref, a\u2019i rannu gydag eraill ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel bod modd iddynt hwythau fwynhau\u2019r lle arbennig hwn hefyd, wyneb yn wyneb, neu drwy fy lluniau.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn noddi Gwobr Sgiliau ym Maes Twristiaeth a Lletygarwch yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales ar 23 Tachwedd. Enillodd y cynllun y wobr hon y llynedd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad ac i annog eraill i ymuno.<\/p>\n","protected":false},"author":16,"featured_media":304588,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0,"footnotes":""},"categories":[98],"tags":[],"class_list":["post-306938","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-lifestyle-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/306938","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/16"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=306938"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/306938\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":306954,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/306938\/revisions\/306954"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/304588"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=306938"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=306938"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ambassadors.artychoke.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=306938"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}