Cwrs Llysgennad Bannau Brycheiniog

Cwrs Llysgennad
Bannau Brycheiniog

Darganfod rhinweddau unigryw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Cwrs Llysgennad Bannau Brycheiniog

Discover the unique qualities of the Brecon Beacons National Park

Brecon Beacons Ambassador

Beth yw’r
Cynllun Llysgennad?

Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i hyfforddi ar lein i wella’ch gwybodaeth am y cyfan sydd gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’w gynnig i ymwelwyr; ei dirweddau syfrdanol, anturiaethau awyr agored, diwylliant bywiog a threftadaeth gyfoethog..

Pan fyddwch yn dod yn Llysgennad Bannau Brycheiniog byddwch yn chwarae rhan bwysig mewn cyfoethogi profiadau ymwelwyr yn gyffredinol.

Eisiau dysgu rhagor am Fannau Brycheiniog?

Dod yn Llysgennad

Profiadau llysgennad

Corporate volunteer group at Cwm Bwhcel

Eisiau dysgu rhagor am Fannau Brycheiniog?

Dod yn Llysgennad

Profiadau llysgennad

Corporate volunteer group at Cwm Bwhcel

“Roeddwn yn gallu wneud yr unedau yn fy amser rhydd. Rwyf wedi ennill gwybodaeth newydd, sy’n ddiddorol iawn. Mae hynny wedi fy hysbrydoli i fynd ac i ymweld a rhai o’r lleoedd sy’n cael eu crybwyll a bydd hynny’n defnyddiol iawn wrth i mi argymell i’m gwesteion gael y teimlad go iawn o synnwyr o le Bannau Brycheiniog.”

Gwylio. Gwrando. Dysgu.
Dod yn Llysgennad Bannau Brycheiniog

Mae’n bosibl cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar lein mewn dim ond ychydig o fodiwlau hawdd. Gallwch ddysgu wrth eich pwysau, gartref neu yn y gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol ac yna, atebwch gwis byr ar y cynnwys. Cyn y byddwch wedi sylweddoli, byddwch yn Llysgennad dros Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gwylio. Gwrando. Dysgu.
Dod yn Llysgennad Bannau Brycheiniog

Mae’n bosibl cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar lein mewn dim ond ychydig o fodiwlau hawdd. Gallwch ddysgu wrth eich pwysau, gartref neu yn y gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol ac yna, atebwch gwis byr ar y cynnwys. Cyn y byddwch wedi sylweddoli, byddwch yn Llysgennad dros Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Beth yw manteision dod yn Llysgennad?

  • I Chi

  • Ymestyn eich gwybodaeth leol o’r ardal

  • Darparu profiad hyd yn oed yn well i’r cwsmer

  • Rhoi hwb i'ch hyder wrth rannu gwybodaeth am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gydag eraill

  • Ennill sgiliau newydd i ychwanegu at eich CV

  • Cyfle i ddathlu a chael balchder ac angerdd dros ein rhanbarth hardd

  • Rhannu syniadau ac ymarfer gorau gyda phobl o’r un meddylfryd

  • Bod yn rhan o grŵp sy’n rhannu’r un diddordeb

  • I’ch Busnes

  • Mae’n cynnig rhaglen barod, am ddim, o sefydlu staff

  • Cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus

  • Help gydag ysgogi a chadw staff

  • Help i gynyddu teyrngarwch ac ail ymweliadau

  • Help i hybu economi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

  • Darparu profiad unigryw a gwirioneddol i ymwelwyr

  • Help i gynyddu’r nifer o ymwelwyr, hyd eu harhosiad a’u gwariant

  • Ffordd syml ac am ddim o ychwanegu gwerth at eich busnes

  • Help i ddatblygu a chynnal pen ein teithiau

  • Mynediad at amrywiaeth o adnoddau gwerthfawr ar lein am ben ein teithiau y gallwch eu rhannu gyda’ch ymwelwyr

Diweddaraf o’r blog

Cynllun Llysgennad Cymru yn parhau i dyfu

A scheme providing training and knowledge about areas in Wales continues to expand.

Cyngor Gwynedd yn lansio cwrs ar-lein i ddysgu mwy am dreftadaeth, cynefinoedd a hanes y sir

Bydd modd i unrhyw un gymryd rhan yn y cwrs yn eu hamser eu hunain a bydd yn rhad ac am ddim.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Lansio Cwrs Llysgennad Am Ddim

Lansiodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei gwrs llysgennad ar lein

Cwrs wedi'i ariannu gan

Brecon Beacons National Park logo Powys logo