
Beth yw’r
Cynllun Llysgennad?
Mae’r cwrs yma’n darparu cyfle i hyfforddi ar-lein er mwyn gwella eich gwybodaeth am yr arlwy i dwristiaid ym Mlaenau Gwent gyfan; ei dyffrynnoedd hardd, ei thirweddau gwyllt, a threftadaeth ddiwydiannol ddifyr.
Pan fyddwch yn dod yn Llysgennad Blaenau Gwent bydd gennych rôl bwysig o ran cyfoethogi’r profiad ar y cyfan i ymwelwyr.
“I have really enjoyed the modules and the websites content, thought the film clips were excellent and a real credit to the borough/people who put it all together.”
Peter Lewis, Tai Calon
Beth yw manteision dod yn Llysgennad?
I Chi
Dyfnhau eich gwybodaeth leol am yr ardal
Darparu profiad gwell byth i gwsmeriaid
Rhoi hwb i'ch hyder i rannu gwybodaeth am Flaenau Gwent gydag eraill
Ennill sgiliau newydd i’w hychwanegu at eich CV
Cyfle i ddathlu a bod â balchder yn, ac angerdd am, ein rhanbarth prydferth
Rhannu syniadau ac arfer gorau gyda phobl o’r un anian
Bod yn rhan o grŵp sy’n rhannu’r un buddiannau
I’ch Busnes
Mae’n cynnig rhaglen sefydlu staff barod sy’n rhad ac am ddim
Cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus
Cymorth gyda chymell a chadw staff
Cymorth i gynyddu teyrngarwch ac ymweliadau mynych
Cymorth i hybu economi Blaenau Gwent
Cymorth i hybu economi Blaenau Gwent
Mae’n darparu profiad unigryw a dilys i ymwelwyr
Cymorth i gynyddu nifer yr ymwelwyr, hyd arosiadau a gwariant ymwelwyr
Ffordd syml a rhad-ac-am-ddim o ychwanegu gwerth at eich busnes
Cymorth i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan
Diweddaraf o’r Blog
Cwrs wedi'i ariannu gan

