
Beth yw'r
Cynllun Llysgenhadon?
Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle hyfforddi ar-lein i wella’ch gwybodaeth am yr hyn y mae pob rhan o Sir Gâr yn ei gynnig i dwristiaid; ei thirweddau trawiadol, ei hanturiaethau awyr agored, ei diwylliant bywiog a’i threftadaeth gyfoethog.
Pan fyddwch yn dod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyfoethogi profiad cyffredinol ymwelwyr.
“Mor falch o fod wedi cyflawni fy Ngwobr Efydd Llysgennad Sir Gaerfyrddin. Diolch yn fawr i Gyngor Sir Caerfyrddin am ddarparu cwrs mor addysgiadol a diddorol. Byddwn yn argymell i bawb sy’n frwd dros Dwristiaeth a Sir Gaerfyrddin dderbyn yr her.”
Beth yw manteision dod yn Llysgennad Twristiaeth?
I Chi
Dyfnhau eich gwybodaeth leol am yr ardal
Darparu profiad gwell fyth i gwsmeriaid
Rhoi hwb i'ch hyder i rannu gwybodaeth am Sir Gâr gydag eraill
Dysgu sgiliau newydd i'w hychwanegu at eich CV
Cyfle i ddathlu ac ymfalchïo yn ein hardal hardd
Rhannu syniadau ac arferion gorau gyda phobl o'r un meddylfryd
Bod yn rhan o grŵp diddordeb cyffredin
I'ch Busnes
Mae'n cynnig rhaglen sefydlu staff barod yn rhad ac am ddim
Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus
Helpu i gymell a chadw staff
Helpu i gynyddu teyrngarwch ac ymweliadau mynych
Helpu i hybu economi Sir Gâr
Darparu profiad unigryw a go iawn i ymwelwyr
Helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, am faint maen nhw'n aros a'u gwariant
Ffordd syml ac am ddim o ychwanegu gwerth at eich busnes
Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan
Mynediad at ystod o adnoddau ar-lein gwerthfawr am y gyrchfan y gallwch eu rhannu gyda'ch ymwelwyr
Diweddaraf o’r blog
Cwrs wedi'i ariannu gan

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.