Cwrs Llysgenhadon Diwylliannol

Llysgenhadon Diwylliannol Cultural Ambassadors

Llysgenhadon Diwylliannol

Beth yw’r cwrs Llysgenhadon Diwylliannol?

Dyma gyfle i ddysgu mwy am ein diwylliant a hanes Cymru, ac am ein hiaith arbennig ni.

Wrth ymuno â’r rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol, byddi di’n gallu estyn croeso cynnes i bobl sy’n ymuno neu’n ymweld â’n cymunedau, o Fôn i Fynwy.

O ble ddaeth y syniad?

Mae’r Gymraeg a’n diwylliant yn rhan o fywyd nifer o bobl a’n cymunedau ni ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r Gymraeg a’n cymunedau Cymraeg ni.

Rydym yn gwybod fod ail gartrefi a thai gwyliau yn gallu effeithio ar sefyllfa’r Gymraeg ac ar allu pobl leol i fyw yn lleol. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ymyraethau, ac un ohonyn nhw yw creu Rhwydwaith o Llysgenhadon Diwylliannol.

Cynnig croeso Cynnes

Os wyt ti am estyn croeso cynnes i bobl sy’n symud i fyw i Gymru neu sy’n dod yma ar eu gwyliau, dyma’r cwrs i ti!

Wedi i ti gwblhau lefel (mae tair lefel wahanol) byddi di’n perthyn i rwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol ledled Cymru sy’n barod i sgwrsio’n hyderus am ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith ni.

Mae’r pŵer yn nwylo’r Llysgennad...

Pan fydd pobl yn symud i gymunedau newydd i fyw, neu’n ymweld ar eu gwyliau, fel Llysgennad gelli di sgwrsio gyda nhw am hanes yr ardal, am ein diwylliant a’n treftadaeth leol, ac am bwysigrwydd y Gymraeg. Gelli di hyd yn oed ddysgu gair neu ddau iddynt… Diolch, croeso, bore da / prynhawn da.

Byddi di’n dysgu llawer iawn mwy na hyn ar y cwrs, ac yna bydd modd defnyddio’r wybodaeth yn dy fywyd neu yn dy waith o ddydd i ddydd.

Beth mae hynny yn ei olygu? Wel, efallai bydd modd cael sgwrs gyda chymdogion newydd am hanes yr ardal, neu ddefnyddio ychydig o Gymraeg fel ‘Bore da!’ wrth basio ymwelwyr ar y stryd. Neu beth am gynnal sesiwn ‘paned a sgwrs’ i bobl sy’n newydd i’r ardal, neu ddysgwyr Cymraeg lleol? Wedi i ti orffen y cwrs mae nifer fawr o wahanol bethau mae modd eu gwneud. Ti biau’r dewis!

Os bydd gyda ti gwestiwn...

am Cymraeg 2050 neu am gynnwys y cwrs, cysyllta heddiw â: Cymraeg2050@llyw.cymru

Byddwn ni’n hapus i helpu.

Diweddaraf o’r Blog

Cyfle i ddysgu mwy am Gymru yn ystod Wythnos gyntaf Llysgenhadon Cymru

Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad ac i annog eraill i ymuno.

Y Llysgenhadon yn eu geiriau eu hunain

Mae cynllun Llysgennad Cymru yn annog adborth. Dyma rai o’r sylwadau gwych ’rydym wedi’u derbyn.

Cwrs wedi'i ariannu gan

Ariennir gan Lywodraeth Cymru Funded by Welsh Government