
Beth yw’r
Cynllun Llysgenhadon?
Mae Cwrs Llysgennad Sir Ddinbych yn darparu cyfle hyfforddiant ar-lein i ddysgu a gwella eich gwybodaeth am nodweddion unigryw’r sir i egluro beth sy’n gwneud Sir Ddinbych yn sir arbennig.
Pan fyddwch chi’n dod yn Llysgennad Sir Ddinbych byddwch yn chwarae rôl bwysig yn cyfoethogi profiad cyffredinol ymwelwyr.
““Dewisais ddod yn Lysgennad gan ei fod yn rhoi mwy o wybodaeth i chi, mae bob amser yn ddefnyddiol i gael rhagor o wybodaeth pan rydych chi’n tywys pobl ar deithiau cerdded ac yn mynd â phobl i gerdded mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r cwrs am ddim sydd bob amser yn helpu. A gallwch chi ei wneud gartref dros gwpl o nosweithiau yr wythnos, felly mae’n wych. Does dim fath beth a gormod o wybodaeth fel maen nhw’n dweud, mae bob amser yn braf dysgu rhywbeth newydd.”
Mind Dyffryn Clwyd
Beth yw'r manteision o fod yn Lysgennad?
I Chi
Gwella eich gwybodaeth leol am yr ardal
Darparu profiad gwell fyth i gwsmeriaid
Meithrin sgiliau newydd i’w hychwanegu at eich CV
Cyfle i ddathlu a theimlo balchder ac angerdd am ein rhanbarth hardd
Rhannu syniadau ac arfer orau â phobl debyg i chi
Cyfle i fod yn rhan o grŵp sydd â’r un diddordeb
I’ch Busnes
Cynnig rhaglen gynefino staff sydd wedi’i pharatoi am ddim
Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus
Cymorth â chymell a chadw staff
Helpu i wella ffyddlondeb a nifer yr ymwelwyr sy’n galw eto
Helpu i roi hwb i economi Sir Ddinbych
Darparu profiad unigryw a dilys i ymwelwyr
Helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, hyd eu cyfnod yma a'u gwariant
Ffordd syml ac am ddim i ychwanegu gwerth at eich busnes
Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan