
Beth yw’r
Cynllun Llysgennad?
Mae’r cynllun hwn yn darparu cyfle hyfforddi unigryw i wella’ch gwybodaeth am Rinweddau Arbennig Parc Cenedlaethol Eryri a phopeth sy’n gwneud Eryri yn eithriadol. Fel llysgennad y cynllun hwn, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig wrth gyfoethogi profiad trigolion ac ymwelwyr Eryri.
Wedi mynychu gweithdy agoriadol ym Mhlas Tan y Bwlch yn Chwefror 2020 dywedodd un Llysgennad:“Strwythur arbennig – anffurfiol ond yn hynod addysgiadol. Digon o gyfleoedd i rannu syniadau a phrofiadau. Diolch.”
Beth yw'r manteision o ddod yn Lysgennad?
I Chi
Gwella eich gwybodaeth leol am yr ardal
Darparu profiad gwell fyth i ymwelwyr
Meithrin sgiliau newydd i'w rhoi ar eich CV
Cyfle i ddathlu a theimlo balchder ac angerdd am ein hardal hardd
Rhannu syniadau ac arfer dda gyda phobl o’r un fryd
Bod yn rhan o grŵp sydd â’r un diddordeb
Rhoi hwb i'ch hyder er mwyn rhannu gwybodaeth am Eryri gydag eraill
I’ch busnes
Cynnig rhaglen gynefino staff sydd wedi’i pharatoi am ddim
Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus
Cymorth gyda chymhelliant staff a sut i’w cadw
Helpu i wella ffyddlondeb a nifer ymwelwyr sy’n galw eto
Helpu i roi hwb i economi Eryri
Darparu profiadau unigryw a dilys i ymwelwyr
Helpu i gynyddu nifer o ymwelwyr, yr hyd y maent yn aros a’u gwariant
Ffordd syml ac am ddim i ychwanegu gwerth at eich busnes
Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan
Y diweddaraf o’r blog
Cwrs wedi'i ariannu gan

