Croeso.
Er mwyn dod yn Llysgennad Gwynedd ac i ennill y dystysgrif Efydd mae’n rhaid pasio tri modiwl gorfodol. Y modiwlau gorfodol yw:
- Croeso i Wynedd
- Iaith a Diwylliant
- Cymunedau
Unwaith y byddwch wedi llwyddo i basio’r modiwlau gorfodol ac wedi ennill eich tystysgrif Efydd, bydd cwis ar gyfer pob modiwl arall ar gael, a gallwch ymgymryd ag unrhyw fodiwl o’ch dewis chi.
Cwblhewch 3 modiwl gorfodol er mwyn bod yn Llysgennad Gwynedd Lefel Efydd.
Cwblhewch gyfanswm o 6 modiwl er mwyn bod yn Llysgennad Gwynedd Lefel Arian.
Cwblhewch gyfanswm o 9 modiwl er mwyn bod yn Llysgennad Gwynedd Lefel Aur.
Ar ôl cyrraedd Lefel Aur, byddwch yn derbyn pecyn diolch – sy’n cynnwys potel ddŵr, bathodyn embroideri a chortyn (lanyard) Llysgennad Gwynedd* *Cyntaf i’r felin! Bydd rhain ar gael am gyfnod penodol yn unig.
TIP: Cwblhewch y modiwlau yn yr iaith y dewisoch ar y dechrau. Ni allwn warantu y byddwch yn cadw eich sgôr os byddwch chi’n newid iaith.
